Pa ystafell wnewch chi ddewis?

Archebwch yma

Mi wneith yr ystafell gori hon fynd â chi yn ôl i 1963 lle mae Dr G Williams wedi carcharu un o’ch cyd-chwaraewyr! Rydych yn mynd i’r ystafell i geisio’i achub, ond mae o’n eich cloi chi gyd i mewn! Mae o wedyn yn cynnau’r adeilad hefo tân wrth obeithio dinistrio’r holl dystiolaeth argyhoeddiadol o’i arbrofion lobotomau a’i driniaethau therapi ‘electroshock’. Mae gennych 1 awr i ddianc cyn i’r tân lyncu’r adeilad hefo chi a’ch tîm tu fewn.

Cynhwysedd… 2-6
Cyfradd llwyddiant… 64%
Oed… rydym wedi hunan-ddosbarthu yr ystafell i fod yn TUD-13 oherwydd y gôr, trais a’r dwyster ond er hyn cynghorir disgresiwn rhieni.

Mae sled Siôn Corn yn barod ac yn barod, ond mae problem fawr—mae Elf Naughty wedi cuddio’r allwedd, ac mae’r Nadolig mewn perygl! A oes gennych chi a’ch tîm yr hyn sydd ei angen i drechu ei driciau ac achub y Nadolig?

Ewch i mewn i ystafell ddianc ar thema Nadolig y Silff Naughty, lle byddwch chi’n wynebu cyfres o bosau a rhigolau heriol. Dim ond awr sydd gennych i’w datrys ac adfer yr allwedd. Ond rhybuddiwch—methwch, a chewch eich caethiwo, eich gorfodi i ddioddef carolau Nadolig diddiwedd… Am byth.

Casglwch eich ffrindiau, rhowch eich tennyn ar brawf, a gweld a allwch chi ddatrys anhrefn Nadolig y Naughty Elf mewn pryd!

Cynhwysedd…2-4
Cyfradd llwyddiant… 51%
Oedd… 8+

Ystafell ddianc symudol tŷ dol maint llawn, wedi’i grefftio â llaw a’i ddanfon at garreg eich drws ffrynt!

Yn anffodus mae eich hoff daid wedi marw, chi a’ch teulu sydd gyda’r baich o lanhau ei atig. Ond fel rydych chi yn glanahu yr atig rydych yn dod o hyd i dŷ doliau, wedi’i wneud â llaw ganddo, gyda llythyr yn egluro bod gemau gwerthfawr y teulu  y tu mewn i dŷ’r ddol.

Eich tasg yw datrys y posau a dehongli y codau i gyrraedd gemau gwerthfawr y teulu.

(Yn anffodus nid yw’r posau yn y gêm hon yn cyfieithu’n dda i’r Gymraeg ac ar hyn o bryd dim ond yn Saesneg y mae y ty ddol ar gael i’w chwarae)

Cynhwysedd… 1-6
Cyfradd llwyddiant… 99%
Oed… 8+

Yn rhan 2 (Nid oes angen unrhyw wybodaeth flaenorol am y tŷ doliau) o’n cyfres gemau cludadwy rydych chi hefyd yn dod o hyd i gês vintage yn atig eich diweddar Taid, ond mewn arddull Taid go iawn mae’n cael ei gloi! Allwch chi ddilyn ei gliwiau a dehongli’r codau i ddarganfod beth mae Taid wedi bod yn cuddio yr holl flynyddoedd hyn?

Mae ein gemau cludadwy yn union fel ystafell ddianc rheolaidd, yn dal i gynnwys cloeon a phosau. Ond y tro hwn mae’r pwysau i ffwrdd… Mae gennych 24 awr i fynd i mewn i’r cês dillad a darganfod beth yw cyfrinach fawr Taid!

(Yn anffodus nid yw’r posau yn y gêm hon yn cyfieithu’n dda i’r Gymraeg ac ar hyn o bryd dim ond yn Saesneg y mae y ty ddol ar gael i’w chwarae)

Cynhwysedd… 1-6
Cyfradd llwyddiant… 99%
Oed… 8+

Mae ystafell ddianc yn cynnig gwych i fynd allan gyda ffrindiau, teulu, cydweithwyr neu hyd yn oed noson allan gyda’ch partner. Mae’r ystafell ddianc yn gorfodi pobl i weithio hefo’i gilydd a chyfathrebu i gyrraedd y nod a dianc. Heb ffonau a rhyngweithiau allanol, mae pobl wir yn dod i adnabod eu cyd-chwaraewyr a darganfod mwy amdanynt. Fe ellwch nid yn unig ddarganfod cryfderau a gwendidau eich cyd-chwaraewyr, ond hefyd eich rhinweddau eich hunain, fe allech chi ddysgu mwy am berson mewn awr o chwarae nag mewn blwyddyn o sgwrs.

90 Stryd Fawr, Porthmadog, LL49 9NW

What3Words – ///giggle.purest.classmate

Tel – 07908539713, 01766 513 221

contact@paniqroomswales.co.uk

Facebook & Instagram