PaniQ Rooms

Datglowch eich dychymyg yn Ystafelloedd PanIQ Cymru…

Archebwch Nawr

Ystafelloedd PanIQ: Prif Antur Ystafell Ddianc Porthmadog!

Ystafelloedd PanIQ yw prif ystafell dianc Porthmadog, ac yr ystafell dianc cyntaf i agor o fewn Sir Gwynedd! Ni yw’r gweisteiwyr i 2 gem dianc “bywyd wir” 60 munud.

Fyddwch chi a’ch tim yn cael eich rhoi mewn ystafell ddirgel gyda thema ffeithiol. Bydd rhaid i chi ddefnyddio eich pwerau arsylwi a sgiliau datrys problemau i chwilio am oriadau, datrys posau rhesymegol, cracio’r codau a chwblhau’r tasgau a osodwyd i’ch galluogi i ddianc o’r ystafell.

Pa ystafell wnewch chi ddewis?

    Cartref plant segur. Allwedd ar goll. Teulu’n chwilio am atebion. Ewch i mewn i’r tywyllwch, datguddiwch y gwir, a darganfyddwch beth ddigwyddodd mewn gwirionedd flynyddoedd maith yn ôl.

    Darllenwch fwy
    Cynhwysedd:1-6Llwyddiant:85%Oedran:13+
    Archebwch Nawr

    Ystafell ddianc symudol tŷ dol maint llawn, wedi’i grefftio â llaw a’i ddanfon at garreg eich drws ffrynt!

    Darllenwch fwy
    Cynhwysedd:1-6Llwyddiant:98%Oedran:8+
    Archebwch Nawr

    Yn rhan 2 (Nid oes angen unrhyw wybodaeth flaenorol am y tŷ doliau) o’n cyfres gemau cludadwy rydych chi hefyd yn dod o hyd i gês vintage yn atig eich diweddar Taid, ond mewn arddull Taid go iawn mae’n cael ei gloi!

    Darllenwch fwy
    Cynhwysedd:1-6Llwyddiant:98%Oedran:8+
    Archebwch Nawr
1.

Ymgynnull

eich tîm

2.

Archebwch

eich gêm

3.

Darllen

e-bost cadarnhau

4.

Cyrraedd

PanIQ Rooms i gael eich cloi i mewn

5.

Ateb posau

a dilyn cliwiau

6.

Dianc

yna dathlu!

Mae ystafell ddianc yn cynnig gwych i fynd allan gyda ffrindiau, teulu, cydweithwyr neu hyd yn oed noson allan gyda’ch partner. Mae’r ystafell ddianc yn gorfodi pobl i weithio hefo’i gilydd a chyfathrebu i gyrraedd y nod a dianc. Heb ffonau a rhyngweithiau allanol, mae pobl wir yn dod i adnabod eu cyd-chwaraewyr a darganfod mwy amdanynt. Fe ellwch nid yn unig ddarganfod cryfderau a gwendidau eich cyd-chwaraewyr, ond hefyd eich rhinweddau eich hunain, fe allech chi ddysgu mwy am berson mewn awr o chwarae nag mewn blwyddyn o sgwrs.

Penblwyddi

Rydych chi flwyddyn yn hŷn, ond ydych chi’n ddoethach o gwbl? Dewch i Ystafelloedd PanIQ i brofi eich sgiliau datrys posau! Dewch â’ch ffrindiau a’ch teulu draw i ddathlu gyda chi.

Partïon stag a iâr

Pa ffordd well i ddathlu diwedd eich rhyddid na chael eich cloi mewn ystafell am awr gyda’ch ffrindiau agosaf? Mae Ystafelloedd PanIQ yn croesawu’r partïon yma, ac yn annog gwisg ffansi!

Digwyddiadau adeiladu tîm

Ewch allan o’r swyddfa a chodi’ch hun yn un o’n hystafelloedd â thema! Mae Ystafelloedd PanIQ yn cynnig dewis arall hwyliog yn lle ystafelloelloedd cynadledda a thorwyr iâ diflas! Mae o hefyd yn berffaith ar gyfer partïon Nadolig!

Twristiaeth

Os ydych yn ymweld â Phorthmadog, ystafell ddianc yw’r gweithgaredd dan do perffaith ar gyfer pan fydd y tywydd gwlyb yn ormod.

Dewislen

© 2026 PaniQ Rooms